Nôl i'r holl gyhoeddiadau
|
Cymryd Rhan 2009-2013
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Sector Diwylliannol Gwirfoddol yn rhannu'r farn bod gan bobl o bob oedran, gallu a diwylliant, lle bynnag y bônt yn byw yng Nghymru, yr hawl i ddiffinio, creu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol o'u dewis hwy.
16 Medi 2010 |
 |
Cymryd Rhan - Crynodeb or' Ymgynghoriad a'n Hymateb
Ymatebodd chwe sefydliad i'r ymgynghoriad. Roedd tri'n awdurdodau lleol a thri'n sefydliadau cefnogi/datblygu â chylch gwaith cenedlaethol.
16 Medi 2009 |
|
Gweithio gyda'n Gilydd - Compact
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Sector Diwylliannol Gwirfoddol yn ymrwymedig i weithio o fewn y fframwaith a nodwyd yng 'Nghynllun Sector Gwirfoddol (2000)' Llywodraeth Cynulliad Cymru a hyrwyddo a chefnogi partneriaethau rhwng y Sector Diwylliannol Gwirfoddol, awdurdodau lleol a chyrff eraill a noddir yn gyhoeddus.
1 Hydref 2009 |
 |
Gweithio gyda'n gilydd - Cynllun Gweithredu 2009-10
‘Gweithio gyda'n Gilydd' yw'r compact rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Sector Diwylliannol Gwirfoddol yng Nghymru. Y nod yw cydnabod, gwerthfawrogi a hyrwyddo gwaith y Sector Diwylliannol Gwirfoddol ledled Cymru, gan nodi'r gwerthoedd a rennir a'r egwyddorion eang sy'n tanategu ‘Gweithio gyda'n gilydd'.
13 Hydref 2009 |
 |
Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar 'Gweithio Gyda'n Gilydd'
Bu i bedwar sefydliad a thri unigolyn ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'r crynodeb hwn yn cynnwys y prif themâu a'r syniadau a ddeilliodd o'r ymatebion hyn a'r ffordd y maent wedi effeithio ar y ddogfen derfynol.
25 Medi 2009 |
 |
Cyfranogiad yn y Celfyddydau gan Bobl Ifanc
Yn 2002 comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru arolwg i ymchwilio i ac i fesur cyfranogiad disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru yn y celfyddydau.
5 Gorffennaf 2006 |
Nôl i'r holl gyhoeddiadau