Caffaeliad Agored - Rownd 3.
Rydym yn falch i gyhoeddi’r drydedd rownd o gaffaeliad ar gyfer rhaglen Cyrraedd y Nod.
Rydym yn bwriadu contractio gwasanaethau gan ystod o sefydliadau a phartneriaethau i weithredu dwy ffrwd o weithgareddau. Caiff y contractau eu dyfarnu drwy broses gaffael agored. Gwahoddir sefydliadau ac unigolion a chanddynt ddiddordeb mewn gwneud y gwaith hwn i gyflwyno ceisiadau am yr arian.
Mae’r hysbysiad caffaeliad ar gael ar:
www.sell2wales.co.uk/notices/display.html?NoticeId=28332
Mae manylion pellach ar ymgeisio a’r meini prawf yn y dogfennau isod.
Gweithgaredd Celfyddydol Ymgyfranogol
Manyleb y Prosiect – Gweithgaredd Ymgyfranogol
Holiadur Prosiect – Gweithgaredd Ymgyfranogol
Meini Prawf Dethol – Gweithgaredd Ymgyfranogol
Cwestiynau Cyffredin – Gweithgaredd Ymgyfranogol
Cyflwyno Cyrraedd y Nod
Mae Cyrraedd y Nod yn un o fentrau Llywodraeth Cymru sydd wedi ei hanelu at leihau nifer y bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu mewn perygl o fod yn y sefyllfa honno. Datblygwyd y prosiect er mwyn manteisio ar gyfleoedd ariannu sydd ar gael o raglen Cronfa Cymdeithasol Ewrop (ESF) yng Nghymru.