Cyngor Celfyddydau Cymru | Cyngor a Chanllawiau Cyllido

Cyngor a Chanllawiau Cyllido

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi adolygu ei gynlluniau ariannu; mae'r fersiynau diweddaraf ar gael yn yr adran hon.


Mae ein cynlluniau ariannu yn rhoi cyfle i artistiaid a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i geisio, trwy broses gais gystadleuol, am arian tuag at broject celfyddydol sydd wedi'i ddiffinio'n glir.

Dylai'r nodiadau canllaw a gyflwynir yn yr adran hon gyflwyno'r holl wybodaeth berthnasol sydd ei angen i wneud cais am arian. Darllenwch y rhain yn ofalus cyn siarad gydag un o'n swyddogion neu wneud cais, os gwelwch yn dda. Rydym hefyd yn eich hannog i ddarllen ein Cynllun Corfforaethol, ein Cynlluniau Rhanbarthol a'n Strategaethau i'r Ffurfiau ar Gelfyddyd.

Bydd y canllawiau hyn yn esbonio:

  • pa fath o grantiau sydd ar gael
  • p'un ai yw ymgeisydd yn gymwys i dderbyn arian neu beidio
  • ein blaenoriaethau ni

Cynigiwn y cyngor hyn mewn canllawiau penodol ar gyfer sefydliadau ac unigolion.

Dylai unigolion a sefydliadau sy'n ymgeisio i dderbyn arian gennym gyfeirio hefyd at ein Canllawiau i ymgeiswyr a'r Canllawiau Brand ar gyfer Derbynwyr Grant.


Noder: Rydym yn cadw'r hawl i addasu neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cynlluniau heb rybudd. Yr ydym, felly, yn eich cynghori i gysylltu â'ch swyddfa leol i sicrhau bod gennych y gwybodaeth diweddaraf ynglyn â'r cynlluniau cyn ymgeisio.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245