Bydd ein Cyfeiriadur Celf ar gael yn fuan. Bydd cofrestru nawr yn eich caniatáu i fewngofnodi a rheoli eich manylion pan fydd ar gael.
Cyhoeddir yr holl wybodaeth a gyflwynir i'r Cyfeiriadur Celf yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn unol â'n Cynllun Iaith Gymraeg disgwylir i'r holl gynnwys gael ei gyflwyno yn ddwyieithog. Rydym wedi adeiladu'r Cyfeiriadur mewn modd sydd yn gwneud hyn yn symlach, ond ni fydd unrhyw gynnwys nad yw'n ateb y gofynion hyn yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.
Mae'n bwysig eich bod yn cyfeirio at y ddogfen Rheolau a Chanllawiau'r Cyfeiriadur Celf, sy'n esbonio ein meini prawf cymwysedd i gyflwyno gwybodaeth, cyn ymgeisio i gyflwyno manylion i'n Cyfeiriadur Celf. Asesir pob cynhwysiad yn unigol ac mae’r canllawiau hyn er gwybodaeth i chi cyn i chi gyflwyno i’n bas data.
Rheolau a Chanllawiau'r Cyfeiriadur Celf