Rhai pethau i'w hystyried
Gall cael hyd i Stiwdio/Gweithdy sy'n addas ar gyfer y gwaith rydych am ei wneud fod yn anodd. Nid yw'r rhan fwyaf o leoedd sydd ar gael yn bwrpasol ac efallai na fyddant yn dod yn wag yn aml iawn. Rhestr gyfeirio yw'r nodiadau isod ac efallai na fydd yn bosibl cyflawni'r holl bethau hyn. Dylech bob amser ymweld yn bersonol â'r gofod gan gwrdd â'r artistiaid eraill os mai stiwdio sy'n cael ei rhannu sydd dan sylw. Mae'n bwysig cael teimlad y lle ac, er ei bod yn amlwg, gwnewch yn siŵr eich bod gwybod yr holl fanylion cyswllt (a manylion y landlordiaid) a bod eich rhai chi ganddynt hwythau. Os nad oes unrhyw ofod ar gael ar hyn o bryd, dylech weld a yw'n bosibl gwneud cais a chael eich enw ar y rhestr aros.
Pa fath o waith rydych yn ei wneud?
Er, efallai, na fyddwch byth yn gwybod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd, o ran maint neu gyfrwng, o'r naill fis i'r llall, dylai fod gennych ryw syniad ynglŷn â'ch dyheadau a'r hyn rydych am ei ddatblygu yn y chwe mis nesaf. Bydd hyn yn pennu'r maint a'r math o ofod rydych yn chwilio amdano, bydd gofod sy'n rhy fawr yn rhy gostus yn effeithio ar sut rydych yn gwireddu'ch gwaith llawn cymaint â gofod sy'n rhy fach a fydd yn lleihau'ch uchelgeisiau. Os ydych yn chwilio am stiwdio/gweithdy am y tro cyntaf, byddwch yn realistig ynglŷn â lle y byddwch ymhen blwyddyn neu ddwy. Estyniad ffisegol yw'r stiwdio/gweithdy i'r "lle i'ch pen": nodau y gellir eu cyrraedd/rheoli, gweler gofod y gellir ei reoli.
A yw'n agos i le'r ydych yn byw?
Mewn gwirionedd, dylai stiwdios fod o fewn taith fer yn y car, taith ddymunol ar gefn beic neu daith gerdded iachus o'ch cartref. Yn ddigon pell i ffwrdd, fel y gallwch ei ystyried fel lle ar wahân, a rhywle oddi cartref. Hwn ddylai fod y man lle'r ydych yn mynd i'r gwaith; dylai fod yn ddigon agos fel y gallwch fynd i mewn mor aml ag y bo modd, gan ffitio o gwmpas yr holl bethau eraill mae'n rhaid i chi eu gwneud fel y bydd amser gennych i weithio. Wrth ystyried gofod i weithio, meddyliwch am eich siwrnai yno a cheisiwch ddychmygu sut y bydd hi gyda'r nos.
A oes gan y lle y cyfleusterau iawn i chi?
At ei gilydd, ni fydd cyfarpar i'w rannu yn y rhan fwyaf o stiwdios artistiaid, gan mai gofod i weithio ynddo'n unig a geir gan mwyaf. Efallai y bydd gan rai ardal a rennir sy'n cael ei hariannu lle y ceir cyfleusterau megis cyfrifiaduron, mynediad i'r we; gall rhai eraill fod ar gyfer rhyw ymarfer penodol megis gwaith fideo neu gerameg. Dylech wirio rhai pethau, megis a oes toiled a dŵr rhedeg, mynediad hawdd, sawl pwynt pŵer sydd yno a chyflwr unrhyw ardaloedd cymunedol. Gall gweithdai gael eu cyfarparu ag amrywiaeth o offer, odynnau, llifau band ac yn y blaen. A ydych yn gwybod sut i weithio'r rhain? Gwnewch yn siŵr bod hyfforddiant a digon o fesurau diogelwch ar gael.
Faint y gallwch ei fforddio?
Dylech lunio cyllideb. Fel arfer bydd landlordiaid yn disgwyl cael eu talu'n fisol trwy ddebyd uniongyrchol Ar y dechrau, mae'n ddigon posibl na fyddwch yn creu digon o incwm o'ch ymarfer i chi gymryd rhent y stiwdio ohono. Dylech gyfrifo'ch incwm a'ch gwariant, gan gofio cardiau credyd a debydau uniongyrchol. Yn fras IAWN dylai artist mewn stiwdio 10tr. x 10tr. ddisgwyl rhoi £15-£20 o'r neilltu bob wythnos. Mae gweithdai'n ddrutach oherwydd cyfleusterau a chostau ychwanegol.
Pa mor aml y gallwch ei ddefnyddio?
Heblaw mantoli lle mae'r stiwdio a faint y gallwch ei fforddio, mae'n rhaid i chi hefyd gynnwys rhwymedigaethau eraill, teulu, cyflogaeth (llawn a rhan-amser) ac amser cymdeithasol. Nodwch rai dyddiau penodedig i'r stiwdio yn eich amserlen wythnosol. Ceisiwch hefyd osgoi cyfaddawdu neu newid y dyddiau hyn.
Sut mae o ran mynediad?
Mae gan lawer o stiwdios fynediad 24-awr y dydd. Bydd gennych eich allweddau'ch hun. A fyddwch yn gweithio trwy'r nos? A yw'r lleoliad a'r adeilad yn lle da i weithio ar eich pen eich hun.
A yw'r ddiogel?
Gwnewch yn siŵr fod gennych agoriadau i'r holl ddrysau a giatiau. Mae giatiau allanol gan lawer iawn o stiwdios a gweithleoedd. Os yw'ch lle mewn uned, dylai fod ganddo glo ar wahân. Os byddwch yn newid i le newydd, dylech brynu clo clap newydd a mynd ag o pan fyddwch yn symud allan.
A allwch rannu â rhywun?
Gall rhannu fod yn hwyl ac yn fuddiol i'ch ymarfer a'ch bywyd cymdeithasol.
Mae rhannu offer yn golygu bod gennych chi fwy o le i weithio ynddo. Efallai y bydd rhannu'n golygu bod y rhent yn rhatach. Ffordd arall i arbed rhent yw is-osod. Os na fyddwch yn defnyddio'r stiwdio am gyfnod estynedig, 3 mis dyweder, hwyrach y byddwch am rentu'r lle i rywun gan beidio â thalu rhent. Cofiwch gadarnhau bod hyn yn dderbyniol gan eich landlord a bod angen i'r unigolyn rydych yn is-osod y stiwdio iddynt sefydlu debyd uniongyrchol i chi.
A yw'ch offer wedi'i yswirio?
Os ydych yn mynd i gadw offer drud yn y lle, dylech edrych i'w gynnwys fel rhan o'r yswiriant ar gyfer cynnwys y tŷ gan nad yw'n debygol o gael ei gynnwys o dan gytundeb rhentu.
A oes yna leithder?
Fel arfer, bydd gweithdai a stiwdios yn adeiladau eithaf di-raen. Os byddwch yn defnyddio papur a chardiau, ffotograffiaeth neu argraffu, efallai y bydd lleithder yn effeithio arnynt. Nid yw hyn yn gymaint o broblem yn ystod yr haf. Yn ystod y gaeaf efallai y byddwch am wresogi'r gofod. Dylech osgoi defnyddio gwresogydd trydan oherwydd y costau uchel a diogelwch. Gwnewch yn siŵr â'ch landlord am ddefnyddio gwresogydd nwy LPG sy'n sefyll ar wahân.
A ydych yn hollol glir pwy yw'r landlord?
Gall stiwdios a gweithdai gael eu ffurfio gan lawer iawn o aelodau. Efallai nad pennaeth y stiwdios neu'r unigolyn y byddwch yn talu'ch arian iddynt fydd y gwir landlord. Fel arfer, artist arall fydd yn casglu'r holl renti gan y bydd yn well gan y landlord dderbyn taliad unigol. Cofiwch gael contract gan y gwir landlord sy'n atebol am atgyweirio ac yn y blaen.
Am ba hyd y bydd y gofod ar gael?
Mae llawer o stiwdios ar gael dros dro. Efallai bod rhywun wrthi'n cael caniatâd cynllunio ac na fydd eich amser yno'n hirdymor. Mae'n werth rhagweld cyn i chi symud i mewn pa mor hir rydych yn bwriadu bod yno ac os yw hyn yn diwallu'ch anghenion. Gall y gofod fod at ddibenion prosiect penodol neu ar gyfer rhywbeth mwy sefydlog. Gofynnwch am hanes yr adeilad a pha mor hir mae'r gofod yn debygol o fod ar gael. Mae llawer iawn o stiwdios yn hen adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio pellach ac sydd efallai'n mynd i gael eu gwerthu a'u hailddatblygu.
A yw'r rhent yn cynnwys trydan/nwy a dŵr?
Efallai na fydd y stiwdio'n cynnwys biliau a rennir ar gyfer cyfleustodau megis dŵr a charthffosiaeth. Os nad ydynt yn cael eu cynnwys, gallai hyn effeithio ar eich cyllideb a'ch gallu i fforddio'r gofod.
A ydych yn talu am eich gofod eich hun neu fel rhan o grŵp? Byddwch yn ymwybodol o gostau ar y cyd os, er enghraifft, y bydd biliau nwy'n cael eu rhannu a'u talu pan fyddant yn cyrraedd.
A yw'r rhent yn cynnwys trethi busnes?
Rhaid talu trethi busnes am stiwdios a gweithdai - sef treth gyngor i fusnesau. Wedi'i gyfrifo ar sail maint yr adeilad, mae'n landlord yn debygol o basio'r tâl hwn ymlaen i chi gan mai chi sy'n defnyddio'r gofod.
A yw'r artistiaid wedi'u cofrestru ar y cyd fel sefydliad dielw?
Bydd trethi busnes yn cael eu lleihau'n sylweddol ar gyfer elusennau cofrestredig a sefydliadau dielw. Bydd rhai stiwdios yn cael eu sefydlu fel cyrff dielw.
Byddwch yn rhan o Gymuned.
Os ydych yn rhan o grŵp stiwdio, bydd pawb yn wynebu profiadau tebyg wrth gydbwyso bywyd a gwaith. Cefnogwch eich gilydd a chyfrannwch yn wirfoddol i weithgareddau a rennir megis stiwdios agored neu ymunwch â phwyllgor y stiwdio.
Stiwdios yn eich ardal
Bydd gan rai stiwdios a gweithdai wefannau tra ceir hyd i lawer ohonynt ar lafar. Dylech edrych ar hysbysfyrddau sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau, llyfrgelloedd a cholegau lleol. Cysylltwch â swyddog celfyddydau'ch awdurdod lleol a fydd efallai'n gysylltiedig â fforwm celfyddydau gweledol i'r rhanbarth.
Fforymau Celf fesul sir
National Federation of Artist Studio Providers
Sefydlu oriel fel rhan o'r stiwdios
Dewis arall yw dod ynghyd ag artistiaid eraill i gael hyd i leoliad i sefydlu'ch stiwdios neu oriel eich hun.
Pecyn Cymorth Stiwdios
Artquest: Artists Resource
Gweithio o gartref
Er nad yw'n ddelfrydol, mae'n bosibl ar y dechrau y byddwch yn gweithio o gartref. Mae'n well bod y gwaith yn cael ei leoli'n bennaf mewn man penodedig yn y tŷ. Mae pob dim sy'n gorgyffwrdd â hyn yn rysáit am straen a dylid ei osgoi.
Os gallwch, dylech gyfarparu ystafell sbâr neu sied yn yr ardd gan roi arwydd ar y drws i ddangos mai hon yw'r stiwdio. Yn llesol i'r enaid, mae hefyd yn ymarferol gan fod rhai pethau y gallwch eu hawlio pan fyddwch yn hunangyflogedig ond mae'n rhaid nodi'ch lle gwaith yn eich cartref.
Stiwdios Preswyl
Mae'n bosibl y bydd gan y Sefydliadau Celfyddydau mwyaf ac adeiladau stiwdios sydd ag orielau ofod ar gyfer preswyliadau dros dro - fel arfer i artistiaid tramor. Gellir cael hyd i gyfleoedd i deithio a gwneud gwaith mewn gwledydd eraill ar sawl gwefan. Mae llawer iawn o gynlluniau'n cynnwys eich costau byw ond efallai na fyddant yn cynnwys teithio. Bydd rhai eraill yn cynnwys bwrsari. Cyn i chi wneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn hollol glir ynglŷn â pha gostau y bydd yn cael eu cynnwys gan y sefydliad a beth y bydd yn rhaid i chi ei dalu.
Artquest: Artists Resource
Resartis; Arts Resource
Transartists: Arts Resource
Helix Arts
art4eu
Cysylltiadau eraill
Dewis stiwdio
Artists Terms
Cysylltiadau llyfrau
Setting Up a Pottery Workshop (Ceramic Handbooks) (Clawr meddal)
gan Alistair Young
Cyhoeddwr: A and C Black Publishers Ltd (31 Hydref 2006)
ISBN-10: 0713679387
The Artist's Complete Health and Safety Guide (Clawr meddal)
Gan Monona Rossol
408 tudalen
Cyhoeddwr: Allworth Press,U.S.;
3Rev Argarffiad gol. (Rhag 2001) Iaith Saesneg
ISBN-10: 1581152043
ISBN-13: 978-1581152043