Hygyrchedd i bobl anabl i swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymroddedig i ddarparu cyfle cyfartal yn y celfyddydau gan gynnwys ar sail hil, iaith, crefydd, anabledd, oed, rhywedd/hunaniaeth ryweddol a chyfeiriadedd rhywiol. I sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldebau 2010, byddwn yn darparu yr un lefel o wasanaeth, cyhyd ag yw'n rhesymol ymarferol, i bobl anabl ag y cynigir i bob ymwelydd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod fod diogelwch a lles ymwelwyr yn hollbwysig. Gofynna'n gweithdrefnau gwacáu mewn argyfwng i staff sy'n cynnal cyfarfodydd fod yn gyfrifol dros sicrhau bod eu gwesteion yn ymadael â'r adeilad yn ddiogel. Felly mae'n rhaid i'r aelod o staff sy'n cynnal y cyfarfod asesu unrhyw anghenion penodol sydd gan westeion a chytuno ar gynllun gwacáu addas i unigolion.
Cyn ymweld â Chyngor Celfyddydau Cymru dylai ymwelwyr gysylltu â'r swyddfa am wybodaeth gyffredinol a chyngor am unrhyw anghenion penodol sydd ganddynt.
Gweler isod wybodaeth am hygyrchedd pob un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
Caerdydd
Caerfyrddin
Bae Colwyn