Cymru yn Fenis: Datblygu Artistiaid a Churaduron
Fel rhan o Gymru yn Fenis 2011, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn trefnu cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol i artistiaid a churaduron. Y nod yw galluogi artistiaid a churaduron sy’n gweithio yng Nghymru i ddod yn gyfarwydd ag arfer cyfoes rhyngwladol yn y celfyddydau gweledol, i gael profiad o Biennale Fenis ac i ddarparu cefnogaeth i bresenoldeb Cymru yn y Biennale.
Yn dilyn sgil diddordeb mawr, yr ymgeiswyr buddugol sydd yn rhan o rhaglen Goruchwylio Arbennig yw:
Rebecca Voelcker, Rhian Haf, Sean Puleston, Tom Goddard, Sioned Phillips, Rachel Butcher, Erin Rickard, Hannah Downing, Nia Metcalfe a Samuel Hasler.
Y Goruchwylwyr yw’r rhyngwyneb hollbwysig gydag ymwelwyr i’r arddangosfa. Y nhw sydd yn cynnal a goruchwylio rediad esmwyth yr arddangosfa - o brysurdeb agor yr arddangosfa i ymweliadau grwp gan bartїon a cholegau hyd at ddiwedd yr arddangosfa ym mis Tachwedd. Yn ystod eu hamser yn Fenis bydd y goruchwylwyr hefyd yn cael saib o’r gwaith goruchwylio i fwrw ’mlaen gyda phrosiect personol.
"Dwi'n falch o'r anrhydedd o fod yn rhan o dîm Cymru yn Biennale Celf Fenis 2011. Mae'n gyfle gwych i drosglwyddo fy angerdd dros gelfyddydau Cymru a'm gwybodaeth o'r maes a chefnogi Tim Davies o Abertawe. Mae'n gyfle hefyd i ddatblygu fy nghysylltiadau gweithio ag artistiaid a churaduron rhyngwladol a chanolbwyntio ar fy ngwaith creadigol ynghanol harddwch Fenis." (Tom Goddard)
‘Myfyrwyr Preswyl’ (Interniaid) Cymru yn Fenis
Gwnaed tair swyddogaeth ar gael i fyfyrwyr neu raddedigion diweddar.
Gweithiodd Isobel Crawford ar ddogfennaeth ffotograffyddol a recordio gosodiad y gwaith yn y Ludoteca. Gweithiodd Dymphna D’Arcy hefyd ar fideo oedd yn adlewyrchu’r gofod, y gweithiau a’u gosodiad.
Datblygodd y trydydd intern, Mair Jones adnoddau addysgol i’w defnyddio yng Nghymru ar wefan Cymru yn Fenis ac fel pecyn addysgol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2. Bydd Mair hefyd yn arolygu taith ddarlithio Tim Davies o gwmpas orielau Cymru yn ystod hydref 2011.
Grantiau teithio
Gwobrwyodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru 69 grantiau teithio i gynrychiolwyr sefydliadau o Gymru sy’n gweithio o fewn sector y celfyddydau gweledol.