Y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice.
Hen gwfant sydd nawr yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol yw’r Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice. Mae Cymru yn defnyddio’r hen gapel a nifer o stafelloedd eraill yn yr adeilad a adwaenir fel y Ludoteca.
Wedi ei leoli hanner ffordd rhwng prif safleoedd y Biennale yn y Giardini a’r Arsenale mae’r Ludoteca yn hygyrch ac yn hawdd iawn i’w ganfod ar y Fondamenta San Gioacchino sydd ar ben uchaf stryd lydan y Via Garibaldi.
Ym Miennale Celf 2009 yn y Ludoteca rhoddwyd llety i Once Removed, arddangosfa gan artistiaid ifainc o Awstralia ac yn ddiweddarach defnyddid y lle gan Olafur Eliasson ym Miennale Pensaernïaeth 2010 i gyflwyno ei osodiad Starbrick (a ddarlunir isod).
Gweld lleoliad y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice mewn map mwy
Sut i gyrraedd y Ludoteca
1. O Linellau Vaporetto 1, 41/42 Glanfa Arsenale.
Cerddwch dros y bont i’r dde i Riva S. Biagio. Trowch i’r chwith a cherdded i ddiwedd Via Guiseppe Garibaldi. Mae hon yn stryd gerdded lydan oherwydd i’r canal gael ei sychu a phafin ei osod. Pan gyrhaeddwch ben y stryd lle mae’r canal y ail-ymddangos cadwch i’r chwith, dros un bont fechan a mae’r Ludoteca ar y chwith ar Fondamenta San Gioacchino.
2. Llinellau Vaporetto 1, 2, 41/42, 51/52, 61/62 Glanfa Giardini.
Cerddwch ar eich union drwy’r parc ar hyd Viale Garibaldi sy’n dod a chi i ben Via Garibaldi. Wrth y gamlas (Rio di S. Anna) cadwch i’r chwith ar hyd Fondamenta San Gioacchino ac mae’r Ludoteca ar y chwith.
Mae’r prif lwybr troed o’r Giardini i’r Arsenale, neu o’r Arsenale i’r Giardini yn dilyn yr un trywydd
Edrychwn ymalen i’ch croesawu i’r arddangosfa!
[Llun isod: Sean Puleston]