Hanes
Curadur La Biennale 2011
Bice Curiger
|
Ers dros ganrif bu Biennale Fenis (La Biennale di Venezia) yn un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf y byd. Ers ei sefydlu, bu ar flaen y gad wrth ymchwilio i dueddiadau artistig newydd a'u hyrwyddo. Yn Fenis, trefna ddigwyddiadau rhyngwladol ym maes y celfyddydau cyfredol sydd ymhlith y pwysicaf o'u math yn y byd.
Thema
Y teitl a ddewiswyd i Arddangosfa Gelf Ryngwladol Rhif 54 yw ILLUMInazioni – ILLUMInations.
Mae teitl yn taflu goleuni ar bwysigrwydd datblygiadau cyfredol ym maes y celfyddydau rhyngwladol yn y byd sydd ohoni.
Curadur
Penodwyd Bice Curiger yn guradur Biennale 2011 gan fwrdd y Biennale dan gadeiryddiaeth Paolo Baratta.
Hanesydd y celfyddydau, beirniad a churadur yw Bice Curiger a addysgwyd ym Mhrifysgol Zurich. Er 1993 hi fu guradur Kunsthaus Zurich. Mae hefyd yn gydsefydlwr a phrif olygydd Parkett, a gyhoeddwyd yn Zurich ac Efrog Newydd er 1984. Yn ogystal â'i gwaith ar Parkett a Kunsthaus Zurich, bu'n gyfarwyddwr cyhoeddi cylchgrawn Tate etc a gyhoeddir gan Oriel Tate Llundain.