Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bu Nick Capaldi yn Brif Weithredwr yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ers mis Medi 2008. Bu'n Gyfarwyddwr Gweithredol yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, De Orllewin Lloegr, a chyn hynny, bu'n Brif Weithredwr yn South West Arts. Bu Nick Capaldi yn aelod Bwrdd o Culture South West ac yn Gadeirydd ar Bartneriaeth Datblygu Diwylliannol Bryste, menter gyhoeddus/preifat arloesol.
Yn ystod ei gyfnod gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr, elwodd De Orllewin Lloegr ar fuddsoddiad cyfalaf gan y Loteri gwerth £75m, a chwaraeodd Nick Capaldi ran flaenllaw yn y gwaith o sicrhau rhai o gyfleusterau celfyddydol a diwylliannol pwysicaf y rhanbarth.
Graddiodd o Ysgol Gerdd Chethams ym Manceinion, Coleg Brenhinol Cerdd a Phrifysgol Dinas Llundain, a dechreuodd Nick Capaldi ei yrfa ym maes y celfyddydau fel pianydd proffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys nifer o berfformiadau cyngerdd yn ogystal â darllediadau ar y radio a'r teledu.
Nôl at ein rhestr o aelodau'r Tim Rheoli Hŷn >>