Cyngor Celfyddydau Cymru | Artist y Flwyddyn Cymru 2012

Artist y Flwyddyn Cymru 2012

22 Chwef 2012

Artist y Flwyddyn Cymru 2012Mae cystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru ar ei deuddegfed flwyddyn, fe’i sylfaenwyd ym Mlwyddyn y Mileniwm i hyrwyddo a dathlu’r cyfoeth o ddawn artistig sydd yng Nghymru. Neuadd Dewi Sant gychwynnodd y gystadleuaeth sy’n llwyfan gwerthfawr i artistiaid arddangos eu gwaith yng nghalon prifddinas Cymru.

Y Panel dethol eleni ydi Carwyn Evans, Peter Finnemore, Karen MacKinnon, Jacqueline Poncelet a Ruth Cayford.

Dyddiad cau’r ceisiadau ydi Chwefror 22ain ond does dim gofyn cyflwyno’r gwaith tan Ebrill 12 yng Nghaerdydd. Mae mannau casglu eraill ar gael ar draws Cymru ar amryw ddyddiadau. Lawrlwythwch PDFau’r manylion Gwneud Cais a Ffurflenni Gwneud Cais am ragor o fanylion.

logo pdf bachArtist y Flwyddyn Cymru 2012 - Ffurflen Gais

logo pdf bachArtist y Flwyddyn Cymru 2012 - Manylion sut i wneud cais

Am ragor o wybodaeth rhowch ganiad i Ruth Cayford 029 20878706 neu rcayford@cardiff.gov.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245