Cyngor Celfyddydau Cymru | Bodies in Urban Spaces - Perfformiad gwefreiddiol ar gyfer grŵp o ddawnswyr, gan Willi Dorner

Bodies in Urban Spaces - Perfformiad gwefreiddiol ar gyfer grŵp o ddawnswyr, gan Willi Dorner

24 Chwef 2012

Mae clyweliadau’n cael eu cynnal i fod yn rhan o symudiad trefol unigryw wedi’i goreograffu.

Galw am Ddawnswyr

Bodies in Urban Spaces
Mae clyweliadau’n cael eu cynnal i fod yn rhan o symudiad trefol unigryw wedi’i goreograffu. Wedi teithio’r byd o Miami i St Petersburg, mae’r digwyddiad adnabyddus "Bodies in Urban Spaces" yn dod i Gymru am y tro cyntaf fel rhan o Ddyddiau Dawns Abertawe ac Adain Avion, (prif gyfraniad Cyngor Celfyddydau Cymru i’r Olympiad Diwylliannol a Gŵyl Llundain 2012, a grëwyd gan yr artist rhyngddisgyblaethol Marc Rees www.adainavion.org).

Mae "Bodies in urban spaces" yn berfformiad gwefreiddiol, wedi’i gynllunio ar gyfer grŵp o ddawnswyr. Mae’r perfformwyr yn arwain y gynulleidfa i rannau penodol o lefydd cyhoeddus a lled-gyhoeddus. Caiff cadwyn o ymyriadau corfforol eu sefydlu’n gyflym dros ben, yn bodoli dros dro yn unig, sy’n caniatáu i’r gwyliwr edrych ar yr un gofod neu’r un lle mewn ffordd newydd a gwahanol - ar garlam.

Cynhelir clyweliadau grŵp rhwng 11.00 am– 3.00 pm ar ddydd Sul 11eg Mawrth 2012 yn yr LC, Heol Ystumllwynarth, Abertawe.

Mae hwn yn gyfle gwych i berfformio a chael hyfforddiant gan goreograffydd sy’n adnabyddus yn rhyngwladol mewn gwaith sy’n torri tir newydd. Os hoffech gael clyweliad, anfonwch e-bost at s.e.crouch@abertawe.ac.uk erbyn Chwefror 24ain a dewch i’r LC ar y dydd gyda’ch CV.

Bydd gan berfformwyr brofiad mewn theatr ffisegol, dawnsio brêc, dawns gyfoes, byrfyfyr cyswllt ac anogir rhai sydd â diddordeb mewn parkour yn arbennig i wneud cais.

Unrhyw ryw rhwng 18 a 99 oed

Cynhelir cyfnod ymarfer a pharatoi o ddydd Sul 24 i ddydd Iau 28 Mehefin, bydd y perfformiadau ar ddydd Gwener 29 a dydd Sadwrn 30 Mehefin. Mae’n mynychu pob diwrnod yn orfodol.

Telir ffi o £400 am yr wythnos

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â marc.rees@adainavion.org, neu i weld fideos a delweddau o berfformiadau blaenorol ewch i www.ciewdorner.at

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245