Nod Cyngor Celfyddydau Cymru yw diogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed sy’n cyfranogi ac yn ymgysylltu â’r celfyddydau
Byddwn yn sicrhau bod ei sefydliadau cleient/partner yn ymrwymo i arfer da sy’n amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed rhag drwg. Wrth wneud hynny, bydd yn ystyried ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arfer gorau presennol.
Nod Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cyngor Celfyddydau Cymru yw:
- codi ymwybyddiaeth o’r angen i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed sy’n ymwneud a’r celfyddydau yng Nghymru a lleihau’r peryglon iddynt
- darparu canllawiau ar greu amgylchedd gwaith diogel a strwythurau adrodd priodol, gan greu diwylliant o amddiffyn o fewn pob sefydliad
- sicrhau pan amheuir neu datgelir camdriniaeth, fod camau priodol yn cael eu cymryd
Mae’r Polisi Amddiffyn Plant wedi’i anelu at ddwy gynulleidfa:
- staff Cyngor Celfyddydau Cymru y bydd angen iddynt ddefnyddio a deall y polisi
- sefydliadau celfyddydol a chyrff eraill sy’n derbyn cyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru
Rydym yn cydnabod y gwerth aruthrol y gellir ei gael drwy gynnwys pobl ifanc mewn gweithgarwch creadigol, ac rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau sy’n dod a phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed i gysylltiad ag ystod eang o weithgareddau celfyddydol.