Mae un o brif artistiaid Cymru, Davies, yn gweithio mewn ystod eang o wahanol ddeunyddiau gan gynnwys delweddaeth a gafwyd, gosodiad cerfluniol, brithwaith, gweithiau wedi eu fframio a ffilm.
Mae'n wneuthurwr delweddau cofiadwy. Yn aml mae'r delweddau a wneir gan lafur caled, gofalus ac ailadroddus yn anrhydeddu moeseg gwaith, cynnyrch ac ymyraethau systematig.
Mae'n enwog am ei osodiadau sy'n herio strwythurau grym a globaleiddio, un tro aeth Davies yn ôl â llawr parquet o Oes Fictoria a achubwyd o iard adennill yn Abertawe i fforest law Belize o le daeth y pren yn wreiddiol pan gafwyd ei dorri gan gaethweision. Roedd yn ddarn nodweddiadol o'i gelfyddyd arbennig sy'n haenog a difrifol - ar yr un pryd yn weithred syniadol wedi ei gyfuno â ffurfiolaeth yn y llawr a gafodd ei ailosod ar dir y fforest, ac yna delwedd i feddwl yn ei chylch fel yr adenillir y llawr gan natur. Gweithredoedd o dalu teyrnged, o ffugio ac o wleidydda wedi eu cyfuno ydynt.
Wedi ei eni yn y Gorllewin, sefydlodd Davies broffil arwyddocaol yng Nghymru a'r tu hwnt. Cafodd Ddyfarniad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau yn 2008 a chafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gelf Weledol Ryngwladol Artes Mundi gychwynnol yn 2004 ac enillodd y Fedal Aur mewn Celf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003. Mae ei arddangosfeydd unigol yn cynnwys Kilkenny Shift (2009) yn Oriel Butler, Kilkenny, Iwerddon, Seeriad (2010) yn Oriel Kunstihoone, Tallinn, Estonia a'r 50th Year to Heaven (2011) yn Chapter, Caerdydd.
Curadurir yr arddangosfa yn Fenis gan Tom Rowland o Tom Rowland Fine Art sy'n byw yn Llundain a fu'n cefnogi Davies a chydweithio ag ef ers tro byd. Medd Tom Rowland:
"Mae gwaith Tim Davies yn weledol iawn ac fe'i hedmygir am ei allu i gyfuno cydsyniadau â chydlyniad mewn gwahanol gyfryngau."
Yn 2003 cyhoeddwyd Cymru gan Cerith Wyn Evans yn ddigon cofiadwy yn y prif Biennale Celf gan daflu chwilolau i fyny i awyr y nos. Ers hynny mae Cymru wedi cyflwyno ei hartistiaid ar Giudecca mewn pedwar Biennale. Eleni bydd arddangosfa Cymru wedi ei leoli rhwng y Giardini a'r Arsenale. Hen gwfaint yw’r Ludoteca, fel y gelwir yn lleol, yn cynnwys hen gapel a chysegrfa, eu tu mewn baróc eglwysig oer a'u hategiad o ystafelloedd modern. Bydd y casgliad hwn o ofodau'n caniatáu Davies y rhyddid i arddangos gwaith mewn ystod o wahanol gyfryngau sy'n integreiddiol i'w ffordd o weithio.
Er bod ei lleoliad yn ganolog, bydd Cymru'n parhau i weithredu o bersbectif grymus yr ymylon. Meddai Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chomisiynydd yr arddangosfa, David Alston:
"Os y ffordd mae artistiaid yn weledyddion a chrisialwyr ein hymwybyddiaeth mewn byd a nodweddir yn aml gan synnwyr o eironi arwynebol nad oes ar un olwg fodd dianc rhagddynt yw un o islifau Biennale Rhif 54 Biennale, yna bu Davies yn cynnig ei gip difrifol ar y byd sy'n gwrthweithio hynny ers tro gan wahodd cydnabyddiaeth fwy o fwriad y gelfyddyd. Nid syndod o Gymru y daw'r persbectif a'i safle hanesyddol."
Ategir yr arddangosfa hon gan gyhoeddiad, yn ogystal â chynllun interniaeth a goruchwyliaeth sy'n darparu datblygiad proffesiynol i artistiaid a churaduron ifainc o Gymru.
Diwedd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siân James ar 029 2044 1344 / 07812 801356 sian.james@celfcymru.org.uk
Am ragor o bethau gweledol a chysylltiad â thîm y prosiect cysylltwch â Nia Roberts, Cydlynydd y Prosiect, +447775 558301 niawynroberts@gmail.com
Ar gyfer y Comisiynydd cysylltwch â: David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru +447929 344857 david.alston@celfcymru.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
1. Cefnogir yr arddangosfa o Gymru yn Arddangosfa Gelf Ryngwladol Rhif 54 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i grant mewn cymorth o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Hwylusir ymgyfranogiad Davies ac agweddau ar gynhyrchu gwaith newydd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe.
2. Er 2003 datblygodd Cymru, gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, arddangosfeydd ar wahân yn ategiadau i Bafiliwn Prydain yn y Giardini. Eleni cynrychiolir yr Alban gan Karla Black yn y Palazzo Pisani yn Cannaregio a chyflwyna Mike Nelson arddangosfa unigol ym Mhafiliwn Prydain.
3. Dewiswyd Tim Davies drwy alwad agored am gyflwyniadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Wedi ei leoli yn Abertawe, gweithia Davies ag ystod o gyfryngau ac arddangosa yn Fenis waith a gomisiynwyd yn ddiweddar a gwaith wedi ei ailgyflwyno. Cafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gelf Weledol Ryngwladol Artes Mundi gychwynnol yn 2004 gan Declan McGonagle a Fumio Nanjo.
3. Dyma'r prif gyd-destun rhyngwladol i gelfyddyd gyfoes a chyfyd proffil diwylliannol Cymru fel lle i lawer o artistiaid enwog a rhai sy'n ennill eu plwyf. Mae presenoldeb Cymru yn y Biennale yn hanfodol i roi platfform i gelfyddyd weledol yng Nghymru ar lwyfan ryngwladol tra ei fod yn adlewyrchu i Gymru fentrau cysylltiedig megis y rhaglen interniaeth a goruchwyliaeth, grantiau teithio drwy Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i artistiaid ymweld â'r Biennale ac adnoddau addysgol a sgyrsiau, dolenni a lle bo'n gymwys ail-lwyfannu'r arddangosfa a gynhyrchwyd i'r Biennale yn ôl yng Nghymru.
4. Ym Miennale Celf 2009 yn y Ludoteca, gerllaw Via Garibaldi yn Castello, rhoddwyd llety i Once Removed, arddangosfa gan artistiaid ifainc o Awstralia ac yn ddiweddarach defnyddid y lle gan Olafur Eliasson ym Miennale Pensaernïaeth 2010 i gyflwyno ei osodiad Starbrick.