Enillodd Tim Fedal Aur ar gyfer Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol 2003 ac fe'i dewiswyd ar gyfer Artes Mundi 1 yn 2004. Yn 2008 cafodd brif ddyfarniad gan Gymru Greadigol oddi wrth y Cyngor. Yn ddiweddar gorffennodd ddarn comisiwn o'r enw Kilkenny Shift yn Iwerddon a churadurodd Oriel Gelf Glynn Vivian arddangosfa o'r darn hwnnw a gwaith newydd ganddo yn 2009. Bydd Tim yn arddangos yn Oriel Mostyn yn Llandudno ym Medi fel rhan o raglen gychwynnol yr oriel a adnewyddwyd.
Cynulliodd Tom Rowland (hen gydweithiwr a gynhwysodd waith Tim mewn orielau yn Llundain) dîm profiadol i gefnogi'r prosiect ac ef fydd yn ei guradu.
"Mae gwaith Tim Davies yn weledol iawn, fe'i hedmygir am ei allu i gyfuno cydsyniadau â chydlyniad mewn gwahanol gyfryngau. Mae'n artist ymrwymedig gyda'i osodiadau, ffilmiau a gweithiau papur cryfion. Cynnig Tim arddangosfa unigryw ar gyfer Pafiliwn Cymru. Gall gydweithio â gofod penodol a chyda'n gilydd cynlluniwn sioe sy'n weledol a phroffesiynol."
Diolchodd David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau gyda'r Cyngor i'r Pwyllgor Ymgynghorol sy'n helpu ffurfio presenoldeb Cymru yn Fenis bob dwy flynedd.
"Agorasom y drafodaeth am yr hyn a fyddai'n bwysig i Gymru yn y Biennale gan alw ar y sector yng Nghymru i gyfrannu. Ystyriodd y Pwyllgor dri deg o gynigion - rhai ohonynt yn profi'r dyfroedd yn unig - ond roedd craidd i'w drafod yn ddwys cyn llunio rhestr fer. Gofynasom i'r rhai ar y rhestr fer feddwl yn ddyfnach wedyn. Roedd ffactorau lawer yn y penderfyniad ond ar ddiwedd y dydd yr hyn sy'n gwneud ein presenoldeb yn gofiadwy sy'n bwysig a pha neges mae'n ei gyrru'n ôl i Gymru. Mae'n bwysig o hyd fod Cymru yn Fenis i godi proffil ei chelfyddydau. Mae'n bwysig hefyd i Tim gael y cyfle i gyflwyno ei ddewis waith yno. Edrychwn ymlaen, fel yn y gorffennol, at fod yn bartneriaid gyda chydweithwyr yn yr Alban a'r Cyngor Prydeinig (sy'n trefnu Pafiliwn Prydain)."
Dywedodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Dim ond y bumed arddangosfa o Gymru fydd hon yno. Cafodd pob un effaith gan ddangos bod Cymru'n wahanol a gall ymgysylltu â'r byd. Mewn Cymru ddatganoledig, hyd yn oed un sy'n wynebu cyni, bydd yn parhau i fod yn hanfodol i greadigrwydd y wlad sefyll yn dalog ar lwyfan y byd."
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:
david.alston@celfcymru.org.uk
Dysgu mwy am Gymru ym Miennale Fenis.
Nodiadau i'r golygydd:
Y Biennale
Dechreuwyd y Biennale dros ganrif yn ôl ym 1895 fel arddangosfa gelf ryngwladol wedi'i seilio ar y syniad o bafiliynau cenedlaethol. Digwydd rhif 54 yn 2011 dan gyfarwyddyd yr hanesydd a beirniad celf Bice
Curiger: - Rhagolwg 1-3 Mehefin 2011 - Agoriad swyddogol 3 Mehefin 2011 - Agoriad i'r cyhoedd 4 Mehefin-27 Tachwedd 2011
Presenoldeb Cymru
Dyma ei phumed flwyddyn yno. Dyma'r artistiaid gynt: John Cale (2009), Richard Deacon, Merlin James, Heather ac Ivan Morison (2007), Peter Finnemore (2005), Bethan Huws, Cerith Wynn Evans (2003). Cododd y Biennale broffil yr artistiaid ac arddangosodd waith gwych o Gymru. Dyma'r prif gyd-destun rhyngwladol i gelfyddyd gyfoes a chyfyd proffil diwylliannol Cymru fel lle i artistiaid enwog ac sy'n codi yn eu bri. Diffinia'r Cyngor amcanion bod yn y Biennale fel a ganlyn:
- cynnig cyfleoedd gyrfa ar adegau pwysig i ymgyfranogwyr
- canolbwyntio ar gelfyddyd Cymru a sbarduno trafodaeth
- darparu profiadau, gobeithion a chyd-destun i artistiaid yn eu gyrfa gynnar (drwy'r Biennale, rhaglenni goruchwylio, canllawiau byw, gwaith addysg a chyfleoedd i rwydweithio)
- canolbwyntio diddordeb curaduron ar gelfyddyd Cymru a chynyddu'r sylw iddi
- cefnogi'r cyd-destun datblygu i orielau eraill yng Nghymru
- dathlu'r amrywiaeth o waith gwerthfawr yng Nghymru
Pwyllgor Ymgynghorol a'r cynigion ar y rhestr fer:
Dyma'r aelodau a fu'n gweithio gyda David Alston a Lindsay Hughes: Cath Sherrell (Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth), Chris Coppock (curadur), Emrys Williams (artist) a Benjamin Ward (arbenigwr yn y wasg a'r cyfryngau), dan gadeiryddiaeth Norah Campbell (Aelod o'r Cyngor). Roedd Louise Wright o'r Cyngor Prydeinig hefyd yno fel arsyllydd.
Roedd 31 o gynigion yn wreiddiol a 3 ar restr fer a gyhoeddwyd gyda sylwadau ar ein gwefan.
Teimla'r Pwyllgor fod gan y tri nodweddion arbennig. Dewiswyd Tim Davies. Y ddau arall oedd:
S. Mark Gubb a ddaeth yn ôl i Gymru'n ddiweddar a chanddo hanes prosiect ac arddangos o fri. Cydlynwyd y cyflwyniad proffesiynol iawn gan Oriel Ceri Hand, Lerpwl.
Cynigiwyd cerflun grymus amgylcheddol o'r enw Sal Venezia gan gasgliad o artistiaid o'r De o'r enw Celfyddyd Newydd Prydain