Cyngor Celfyddydau Cymru | Creu Cenedl Cerdd: Cerddora Dros y Sul o Fôn i Fynwy
Nôl at y rhestr newyddion

Creu Cenedl Cerdd: Cerddora Dros y Sul o Fôn i Fynwy

Ym mis Mawrth daw dros fil o gerddorion o ensembles o bob cwr o Gymru ynghyd i fwrw’r Sul yn cerddora yn rhan o Music Nation, un o’r digwyddiadau sy’n arwain at Ŵyl Llundain 2012, diweddglo’r Olympiad Diwylliannol. 07 Chwef 2012

Creu Cenedl Cerdd: Cerddora Dros y Sul o Fôn i Fynwy

Bydd ensembles, yn broffesiynol ac yn amatur ill dau, yn cyfuno i greu un o’r penwythnosau mwyaf o gerddora cyfranogol yng Nghymru hyd yn hyn, o’r enw Music Nation Cymru. Rhan ydi hon o’r fenter Music Nation ledled gwledydd Prydain, a gyflwynir gan y BBC a Phwyllgor Trefnu Llundain y Campau Olympaidd a’r Campau Paralympaidd (LOCOG) a gwêl Music Nation Cymru dros bymtheg o gyrff o bob cwr o Gymru yn perfformio mewn oedfannau trwy hyd a lled y wlad, mewn penwythnos o gyngherddau a pherfformiadau am ddim ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 Mawrth 2012.

Un o uchelfannau’r penwythnos fydd cyfres o berfformiadau fflachdorf a ysbrydolir gan gerddoriaeth Cymru, dan arweiniad Opera Cenedlaethol Cymru. Am ganol dydd Sadwrn 3 Mawrth, bydd grwpiau yng Nghaerdydd a Wrecsam yn arwain première byd, a drefnwyd gan y cyfansoddwr John Hardy, cadwyn o ganeuon Cymru yn rhan o National Flash Mash. Mae’r gadwyn yn cynnwys cerddoriaeth gan Catatonia a The Manic Street Preachers, yn gymysg â themâu o Priodas Figaro. Caiff y neb a fyn fod yn rhan o’r fflachdorf ac mae copïau o’r gerddoriaeth ar gael i’w lawrlwytho o wefan Opera Cenedlaethol Cymru yn www.wno.org.uk

Ddydd Sul 4 Mawrth am ganol dydd bydd Creu Cerddoriaeth Cymru a Tŷ Cerdd yn arwain y Gymanfa Ganu Genedlaethol, pan fydd grwpiau amatur yn dod at ei gilydd mewn perfformiad ar yr un pryd o gerddoriaeth draddodiadol Cymru ac ati Agorawd Creu Cerddoriaeth Orlando Gough, darn comisiwn ar gyfer Creu Cerddoriaeth. Dewch i’r perfformiad yn llu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, neu lawrlwytho’r gerddoriaeth ddalen am ddim o www.makingmusic.org.uk a llywyddu eich digwyddiad eich hun.

Am dri o’r gloch ddydd Sul 4 Mawrth, bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cyflwyno Cyngerdd Dathlu Music Nation yn rhoi lle amlwg i première darn comisiwn i’r BBC gan y cyfansoddwr o Gymro Karl Jenkins, Songs of the Earth, a phigion o Breaking the Wall gan Lloyd Coleman - darn comisiwn ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru yn rhan o gywaith Olympiad Diwylliannol Grym y Fflam. At y Gerddorfa a’r Corws daw myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, disgyblion o Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn, a dros 250 o gantorion ifainc o gorau sirol Cymru.

Bydd myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hefyd yn perfformio mewn ensembles yn amrywio o ensembles siambr i gwmnïau opera, mewn preswyliad deuddydd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd. Bydd y Coleg yn croesawu enillwyr a therfynwyr cynt Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC i berfformio yn ei neuadd gyngerdd newydd, Neuadd Dora Stoutzker, mewn cyngerdd nos Sul 4 Mawrth am saith o’r gloch.

Gwelir ensembles lawer yn teithio drwy hyd a lled Cymru i berfformio i gynulleidfaoedd gwahanol – Sinfonia Cymru sydd â’i gartref yng Nghaerdydd yn mynd i Gaernarfon a’r Wyddgrug, ac Ensemble Cymru sydd â’i gartref ym Mangor yn perfformio yng Nglan yr Afon, Casnewydd, a Rhos y Gilwern, Ceredigion.

Meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: "Rwyf wrth fy modd fod BBC Cymru Wales a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn gweithio ochr yn ochr â chynifer o bartneriaid ardderchog i gyflwyno’r penwythnos hudol yma o ddigwyddiadau trwy hyd a lled Cymru - yn rhan o ddathliadau’r Olympiad Diwylliannol yn 2012. Mae’n addo bod yn ddathliad cofiadwy diwylliant a cherddoriaeth yr oes sydd ohoni."

Meddai Hilary Boulding, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: "Mae golwg y bydd Music Nation Cymru yn ddathliad cyffrous cerddoriaeth trwy hyd a lled Cymru. Gwyddom i gyd fod gan Gymru gyfoeth o dreftadaeth gerddorol, ond bydd y penwythnos yma’n gyfle go iawn i roi stondin i’r ddawn hon ym mhob lliw a llun arni. Mae hefyd yn gweld aduno di-ail gynifer o gyrff cerddoriaeth o bwys o bob cwr o’r wlad – cydweithrediad arbennig iawn i nodi achlysur na ddigwydd ond unwaith mewn cenhedlaeth."

Meddai Rhian Hutchings, Cyfarwyddwr Adran Addysg Opera Cenedlaethol Cymru, WNO MAX: "Mae canu yn ffordd dan gamp i Gymru ddathlu 2012! Mae gan National Flash Mash rywbeth i bawb a gobeithio, am ganol dydd Sadwrn 3 Mawrth, y bydd Cymru gyfan yn atseinio gan alawon Figaro, Catatonia, Gwŷr Harlech, The Manic Street Preachers a Myfanwy!"

Mae digwyddiadau eto lawer, yn fawr a bach, yn yr arfaeth dros y Sul o dan faner Music Nation Cymru. Mae rhestrau llawn y digwyddiadau dros y Sul i’w cael yn www.bbc.co.uk/musicnation

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245