Dyddiad : 10 Ionawr hyd 31 Mawrth
Lleoliad : Ysbyty Gwynedd
Tref: Bangor
Lleolir yr Oriel ym Mhrif Fynedfa’r Ysbyty ac mae ar gael i holl ymwelwyr a staff yr Ysbyty i’w fwynhau. Mae’r fenter hon yn rhan o raglen celfyddyd mewn iechyd a lles ehangach sy’n cynnwys cynlluniau arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau i gyfrannu tuag at ofal iechyd, i hyrwyddo lles ac i wella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu.
Cynhelir yr arddangosfa tan ddiwedd mis Mawrth 2012. Cynllun cydweithredol rhwng Rhaglen Celfyddyd mewn iechyd a Lles Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yw Oriel ysbyty Gwynedd. Am fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721 neu drwy gyfrwng yr e-bost GwawrR@gwynedd.gov.uk