Cyngor Celfyddydau Cymru | Caerdydd i groesawu Fforwm Cerddoriaeth Byd WOMEX yn 2013
Nôl at y rhestr newyddion

Caerdydd i groesawu Fforwm Cerddoriaeth Byd WOMEX yn 2013

Cyhoeddwyd heddiw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mai Caerdydd yw’r ddinas fydd yn cyflwyno WOMEX yn 2013. Dewiswyd y brifddinas yn gartref i’r fforwm ac arddangosiad cerddoriaeth byd yn dilyn cystadleuaeth ryngwladol a blwyddyn o ymgyrchu gan Gymru. 28 Medi 2011

Caerdydd i groesawu Fforwm Cerddoriaeth Byd WOMEX yn 2013

Disgrifia UNESCO WOMEX fel 'y farchnad broffesiynol rhyngwladol bwysicaf ar gyfer cerddoriaeth byd o bob math'. Bydd y perfformiadau nos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda digwyddiadau’r dydd a’r ffair fasnach yn cael eu cynnal yn Arena Motorpoint Caerdydd.

Calan: WOMEX 11Disgwylir i’r digwyddiad rhyngwladol hwn gynnwys oddeutu 60 cyngerdd gyda thros 300 o artistiaid, ffair fasnach gyda 650 o gwmnïau yn cynrychioli dros 90 o wledydd yn ogystal â 400 a mwy o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol; bydd hyn oll yn digwydd rhwng 23 a 27 Hydref, 2013.

Cynnig Caerdydd oedd y gorau gan guro cystadleuaeth ryngwladol lem oedd yn cynnwys Glasgow a Dulyn (oedd ar y rhestr fer).

Croesawyd y newyddion gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a ddywedodd:

"Mae WOMEX yn gyfle gwych i ddod â'r llwyfan cerddoriaeth byd pwysicaf i Gymru ac yn sgil hyn i ddatblygu'r sector yma mewn ffordd gynaliadwy. Bydd WOMEX 13 Caerdydd yn agor y drysau i farchnadoedd newydd ar gyfer cerddoriaeth o Gymru a sicrhau bod traddodiadau cerddorol Cymru yn dod yn fwy cyfarwydd i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac yn eu gosod ochr yn ochr â cherddoriaeth ein cefndryd Celtaidd. Drwy groesawu WOMEX gallwn godi proffil ein cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru a thu hwnt."

Arweiniwyd y cais i gynnal WOMEX gan Cerdd Cymru : Music Wales, sy’n bartneriaeth newydd rhwng y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth British Council a Llywodraeth Cymru. Nod y bartneriaeth yw datblygu cerddoriaeth safonol Gymreig sy’n barod i’r farchnad ryngwladol, a denu llwyfannau rhyngwladol megis WOMEX i Gymru. Mae Canolfan Mileniwm Cymru, Arena Motorpoint Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Cardiff & Co i gyd yn bartneriaid ffurfiol WOMEX 13 Caerdydd.

Meddai Dai Smith, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae hwn yn lwyddiant ysgubol i Gymru. Mae wedi bod yn uchelgais hir dymor i Gyngor Celfyddydau Cymru a’n partneriaid i ddenu WOMEX i Gymru. Mae'r digwyddiad o bwys byd-eang hwn yn rhan bwysig o'n cynlluniau i ddatblygu diwydiant cerddoriaeth fywiog a ffyniannus yma."

Meddai Daniela Teuber, Cyfarwyddwr Cynhyrchu WOMEX:

"Rydym wrth ein boddau mai Caerdydd fydd yn cyflwyno WOMEX yn 2013. Mae'r ddinas yn lleoliad gwych i'n digwyddiad cymhleth a'r 2500 o fynychwyr ac artistiaid o bedwar ban byd. Mae’r partneriaid cynhyrchu yng Nghymru yn broffesiynol tu hwnt ac yn llawn egni. Mae’r adeiladau gwych o fewn tafliad carreg i’w gilydd ac yn diwallu'n hanghenion i'r dim. Mae gan Gymru gyfoeth diwylliannol arbennig, ynghyd â lletygarwch a phrydferthwch naturiol."

Wyneb ymgyrch Caerdydd 2013 yw "Brenhines y Delyn" a llysgennad Cerddoriaeth Cymru, Catrin Finch. Bu’n cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth Gymreig i gynulleidfa dan ei sang o bobl proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth byd yn WOMEX 10 Copenhagen. Croesawodd y newydd:

"Mae'n wych fod WOMEX yn dod i Gaerdydd. Mae'n ddigwyddiad cyffrous i gerddorion a cherddgarwyr. Dyma gyfle i ni glywed y gorau o gerddoriaeth byd ar ein stepen drws a sicrhau bod cerddoriaeth Cymru i'w glywed drwy'r byd."

Cefnogir yr uchelgais i gynnal WOMEX gan Strategaeth newydd Prif Ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddatblygu digwyddiadau'r byd yng Nghymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siân James, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, Cyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1344 / 07812 801356 neu e-bostiwch sian.james@celfcymru.org.uk

Am ragor o wybodaeth ar Cerdd Cymru : Music Wales ewch i: www.cerddcymru.com

#womex13


Nodyn i'r golygydd:


Uchafbwyntiau'r cais – pam Caerdydd?

Cynnig Caerdydd oedd y gorau yn y gystadleuaeth.

Roedd ansawdd a maint Canolfan Mileniwm Cymru wedi gadael argraff ddofn ar y trefnwyr a ddaeth i ymweld yn gynt yn y flwyddyn. Gellir cynnal pob digwyddiad nos yno a Phlas Roald Dahl gerllaw sy'n hwyluso pethau i'r gynulleidfa.

Roedd mantais hefyd yn ffordd Cerdd Cymru : Music Wales o gael 'tîm Cymru' a ddangosai undod ledled y ddinas a llywodraeth leol a chenedlaethol.


Beth sydd ynddo i Gymru?

Daw WOMEX 13 Caerdydd â cherddoriaeth byd i'n dinas.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru gael arddangosfa cerdd fasnachol fawr.

Yn ogystal ag elw economaidd o ran ymwelwyr i Gaerdydd, bydd cyfle i ddatblygu'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn sgil WOMEX. Bydd hwn yn gatalydd i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae gan Gymru dreftadaeth gerddorol sy'n werthfawr yn ddiwylliannol ac economaidd ond heb ei harddangos eto yn y farchnad hon.

Daw WOMEX 13 Caerdydd â chyfle i'n cerddoriaeth draddodiadol gael llwyfan rhyngwladol a chysylltu’r sector yng Nghymru gyda Phrydain a’r byd.

Pwy sydd y tu ôl i'r cais? Beth yw Cerdd Cymru?

Arweiniwyd y cais gan Cerdd Cymru : Music Wales, partneriaeth rhwng Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, adain ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Cerdd Cymru : Music Wales yn uno cerddorion a'r diwydiant cerddoriaeth i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol sydd o fudd i Gymru yn economaidd ac yn ddiwylliannol.

Cyngor Caerdydd, Cardiff and Co, Arena Motorpoint Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru yw Cyfarwyddwyr Cerdd Cymru : Music Wales a chefnogir y bartneriaeth gan Lywodraeth Cymru a'r British Council.

Am ragor o wybodaeth am WOMEX, ewch i: www.womex.com

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245