Cyngor Celfyddydau Cymru | Dadorchuddia Tim Davies ei osodiad ym Miennale Fenis
Nôl at y rhestr newyddion

Dadorchuddia Tim Davies ei osodiad ym Miennale Fenis

Yfory, 2 Mehefin 2011, ar ôl cyfnod dwys o ymbaratoi, dadorchuddia Tim Davies ei arddangosfa a dau waith newydd sy'n ymateb i safle a wnaed yn Fenis yn arbennig ar gyfer cyflwyniad Cymru yn Fenis. Y Biennale yw'r digwyddiad pwysicaf a mwyaf clodfawr yn y byd celfyddydau gweledol cyfoes. 01 Mehef 2011

Dadorchuddia Tim Davies ei osodiad ym Miennale Fenis | Tim Davies unveils his installation at the Venice Biennale

Sefydlodd yr artist sy'n byw yn Abertawe broffil arwyddocaol yng Nghymru a'r tu hwnt ac arddengys ei waith ar lwyfan y byd yng ngolwg y wasg a'r cyfryngau celfyddydol yn Fenis am chwe mis. Cyflwyna ei bresenoldeb yno ddelwedd o Gymru yn wlad sy'n hybu diwylliant cyfoes dros y byd a lle sy'n meddu ar agweddau gwahanol ac artistiaid cyfoes llawn dychymyg.

Y curadur yw Tom Rowland o Tom Rowland Fine Art a fu'n cydweithio â'r artist ers amser maith. Dengys Tim waith newydd ac ailweithia ddarnau diweddar.

Yn wreiddiol bu llawer o'r gwaith yn ymateb i'w safle ond mae ganddo arwyddocâd y tu hwnt i'w safle gwreiddiol.

Ymhlith y gweithiau hyn mae Cadet (Rhedeg a Gorymdaith yng Nghaerdydd), 2010, Cadet (Sefyll yn Aberystwyth), 2006 a'r mwyaf a'r mwyaf trawiadol, cyflwyniad o 60 o'i gyfres o Bontydd (2009-11).

Gwnaed Drifft (2011), un o'r ddau ddarn newydd, yn Fenis a phwysleisia mor weithredol yw Tim a chymaint o gyfuniad sydd rhwng yr artist a'i waith. Ffilm leddf yw'r gwaith newydd gyda'r artist yn tynnu ei law yn araf drwy'r dŵr ac yn chwalu adlewyrchiad palazzos Fenis. Mae'r gwaith hwn yn dwyllodrus o syml gan newid amser yn gynnil ac yn chwarae ag eicon Fenis sydd mor anodd cyffwrdd ag ef. Adeiladwyd Frari (2011) o gyfres o ffotos clytwaith ac mae'n ein harwain ar daith i fyny grisiau Campanile Santa Maria dei Frari. Cafodd Tim fwy o hygyrchedd na neb o'i flaen i'r clochdy ac ystyria ansawdd corfforol a diben y lle. Fel yr â'r camera'n uwch mae'n symud y gwyliwr at ddiwedd yr arddangosfa ac mae'n fyfyrdod ar le, treigl amser a realaeth artist sy'n creu yn y Fenis fodern. Cydwedda'r gwaith hwn yn agos iawn â thema gyffredinol y Biennale sef Illuminazioni/Goleuni.

Meddai David Alston, Cyfarwyddwyr y Celfyddydau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chomisiynydd yr arddangosfa:

'Teimlaf mai ffawd Tim oedd gweithio yn Fenis ac mae wedi creu cyfres o weithiau trawiadol. Curadurodd yr arddangosfa'n gelfydd gan Tom Rowland yn ein lle newydd yn Fenis, y Ludoteca. Disgwyliwn dorfeydd i ymweld â Chymru yn Fenis. Roedd yr amserlen osod yn dynn iawn i'r artist a'i dîm ond daw â budd mwy i'r artist a'i dîm ac i gelfyddydau gweledol Cymru.'

Meddai Tim Davies:

"Un o ddigwyddiadau celfyddydol mwyaf sy'n tynnu sylw'r byd yw Biennale Fenis. Mae cynrychioli eich gwlad yno'n fraint fawr. Er gwaethaf y pwysau, mae'r lle yn hyfryd a'r profiad o fod yno'n wefreiddiol. "

Meddai Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

'Biennale Fenis yw'r sioe y mae pob artist am fod ynddi a phob gwlad am fod yno. Mae Tim yn artist o bwys yng Nghymru a thramor ac rydym yn falch i gyflwyno ei waith yn y Biennale. Mae cydweithio'n rhyngwladol yn rhan bwysig o bwrpas y Cyngor. A dyma ni'n cymryd y llwyfan yn ddigymrodedd a balch gerbron y byd."

I gyd-fynd â'r arddangosfa bydd cyhoeddiad lliw gan Ridinghouse, Llundain (ISBN 978 1905464 43 2) a thestun gan y curadur a sylwebydd rhyngwladol, Tessa Jackson, a'r bardd ac awdur, Owen Sheers. Meddai hwnnw am yr artist:

"Gofyn llais syndod o ddyfal i ni edrych yn ddyfnach, cwestiynu pam, sut a beth sydd yn ein cof ac ysgwyd seiliau'r byd o'n cwmpas."

Comisiynwyd yr arddangosfa gan y Cyngor sydd hefyd yn ei rheoli gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.


Tim Davies

Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice, Fondamenta San Gioacchin, 30122 Venezia.

Comisiynydd: David Alston, Curadur: Tom Rowland


Diwedd


Nodiadau i'r golygydd

Amseroedd agor:

Dyddiau gweld 1–3 Mehefin

Arddangosfa'n agored i'r cyhoedd:

4 Mehefin-27 Tachwedd Ar agor: 10am-6pm Ar gau pob dydd Llun, ac eithrio ddydd Llun 6 Mehefin

Vaporetto: Arsenale neu Giardini. Mynediad am ddim

Cysylltiadau ar gyfer y wasg:

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siân James, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, Cyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1344 / 07812 801356 neu e-bostiwch sian.james@celfcymru.org.uk

I siarad â'r artist neu'r curadur, cysylltwch â Nia Roberts, Cydlynydd y Prosiect, +447775 558301 neu ebostiwch niawynroberts@gmail.com / info@walesvenicebiennale.org

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245